Presenoldeb SyM yn nigwyddiadau’r haf

EnglishCymraeg

Byddwn ni yn Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd, Powys o 22 tan 25 Gorffennaf.  O dan ofal Ffederasiwn Ceredigion, bydd stondin SyM wedi ei leoli yn Neuadd De Morgannwg. Bydd y stondin ar y thema ‘Adnewyddu yw’r Ateb’ yn canolbwyntio ar gynaliadwyedd ac yn rhannu gweithredoedd y medrwn gymryd i fyw yn fwy cynaliadwy. Bydd arddangosiadau crefft yn ddyddiol ac arddangosfeydd yn canolbwyntio ar wneud y tro a thrwsio, uwchgylchu, a gofalu am natur a'n cefnforoedd.

Bydd ceisiadau yng nghystadlaethau’r Bowlen Rhosod (cynnyrch a chrefftau llaw) a Chwpan Brycheiniog (celfwaith blodau), yn seiliedig ar y thema ‘Myth neu Chwedl Gymreig’, hefyd yn cael eu harddangos yn Neuadd De Morgannwg i bawb fwynhau.

Byddwn ni hefyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol sy’n cael ei chynnal ym Mharc Ynysangharad ym Mhontypridd o 3 tan 10 Awst. O dan ofal Ffederasiwn Morgannwg, bydd ein stondin yn hyrwyddo’r amrywiaeth eang o gyfleoedd a gynigir trwy SyM ac yn amlygu ein hymgyrchoedd presennol.