Presenoldeb SyM yn Eisteddfod Genedlaethol 2024

EnglishCymraeg

Cawsom wythnos wych yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ym Mhontypridd yn hyrwyddo’r cyfleoedd amrywiol a gynigir drwy SyM a’n blaenoriaethau ymgyrchu presennol.

Ar y dydd Mawrth, fe wnaethom gynnal digwyddiad gydag Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) i godi ymwybyddiaeth o drais yn erbyn menywod ac ymgysylltu â sefydliadau ac unigolion i gymryd camau i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod.

Cyflwynodd Rhian Connick, Pennaeth FfCSyM-Cymru y sesiwn a thynnodd sylw at gyfraniad aelodau SyM at recriwtio llysgenhadon gwrywaidd i wneud addewid y Rhuban Gwyn i ‘beidio byth â defnyddio, esgusodi nac aros yn dawel am drais dynion yn erbyn menywod’.Soniodd y cyflwynydd teledu a radio ac ymgyrchydd Jess Davies am yr angen i greu cymdeithas lle gall menywod a merched fyw eu bywydau heb ofn.

Siaradodd Cerith Griffiths, Aelod o Gyngor Gweithredol Undeb y Brigadau Tân am bwysigrwydd dynion mewn rolau fel swyddogion tân trwy siarad allan yn erbyn trais yn erbyn menywod a thynnodd Dai Miles, Is-lywydd UAC sylw at ymrwymiad UAC i estyn allan i’w rhwydwaith i helpu i ddod â thrais yn erbyn menywod i ben.