Crynhoad o Gynhadledd Flynyddol Cymru 2025

EnglishCymraeg

Ymgasglodd dros 500 o aelodau yn Llanelli ar 16 Ebrill 2025 i nodi 100fed Cynhadledd Flynyddol Cymru - carreg filltir allweddol yn hanes SyM.

Gan adlewyrchu ar y thema ‘dathlu’, trafododd Jill Rundle, Cadeirydd FfCSyM-Cymru,  llwyddiannau niferus SyM gan gynnwys rhai o’r llwyddiannau ymgyrchu dros y blynyddoedd. Cyflwynodd Rhian Connick, Pennaeth FfCSyM-Cymru adroddiad ar waith FfCSyM-Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf ac anerchodd Cadeirydd FfCSyM Jeryl Stone y cynadleddwyr ar y thema ‘Edrych Ymlaen: 2025-2030’.

Trafododd Steve Ormerod, Athro Ecoleg ym Mhrifysgol Caerdydd y newid yn wyneb llygredd afonydd a'r angen i weithredu.

Cyhoeddwyd enillwyr Gwobrau Recriwtio 2024/5 FfCSyM-Cymru. Llongyfarchiadau i SyM Wolfscastle, Ffederasiwn Sir Benfro ar ennill y Wobr Recriwtio yn y categori ‘SyM gyda 24 aelod a llai’ ac i SyM Shirenewton, Ffederasiwn Gwent, enillydd y wobr yn y categori ‘SyM gyda 25 aelod a throsodd’.

Hefyd cyflwynwyd gwobrau i enillwyr y Fowlen Rhosod a Chwpan Brycheiniog ar y thema ‘Myth neu Chwedl Gymreig’. Llongyfarchiadau i Ffederasiwn Powys Brycheiniog ar ennill y Fowlen Rhosod ac i Ffederasiwn Morgannwg ar ennill y Cwpan Brycheiniog.

Yn ystod sesiwn y prynhawn, ysbrydolwyd y cynrychiolwyr gan Mari Thomas, gemydd, eurydd ac artist cyfoes, a siaradodd am ei hangerdd dros redeg ei busnes crefft yn Llandeilo. Siaradodd Melanie Johnson, Dirprwy Gyfarwyddwr Iechyd UK-Med a Thîm Argyfwng Meddygol y DU, am ei gwaith gyda’r sefydliad dyngarol UK-Med a ddarparodd ymatebion iechyd mewn sefyllfaoedd argyfwng megis trychinebau naturiol, achosion o glefydau a gwrthdaro a hefyd darparodd cymorth technegol i’r Cenhedloedd Unedig a chyrff eraill. I gloi, diddanwyd y cynadleddwyr gan berfformiad gwych gan Rock Choir Cymru dan arweiniad Dan Rogers.

Ymwelwch â My WI i ddarllen Adroddiad y Gynhadledd.