Crynodeb o Sioe Frenhinol Cymru 2024
Ym mis Gorffennaf, roedd SyM nôl yn Sioe Frenhinol Cymru, y sioe amaethyddol fwyaf yn Ewrop sy’n denu dros 200,000 o ymwelwyr yn flynyddol.
Roedd stondin SyM, a gynlluniwyd gan Ffederasiwn Ceredigion, yn seiliedig ar y thema ‘Adnewyddu yw’r Ateb’. Arddangoswyd ymrwymiad SyM i gynaliadwyedd, gan amlygu ein hymgyrchoedd amgylcheddol ynghyd a dangos gweithredoedd y gallwn ni gyd gymryd i fyw yn fwy cynaliadwy fel gwneud y tro a thrwsio, uwchgylchu, a gofalu am natur a'n cefnforoedd.
Yn ystod y pedwar diwrnod, arweiniodd aelodau Ffederasiwn Ceredigion arddangosiadau ar y stondin a ddenodd lawer o ddiddordeb. Roedd yr arddangosiadau wedi cynnwys trefnu blodau cynaliadwy; gwau rygiau rhacs; cardiau plygu Iris; clytwaith seren wedi'i blygu; crefft papur; a feltio.
Ar ddiwrnod cyntaf y Sioe, beirniadwyd cystadlaethau SyM sef y Fowlen Rosod (cynnyrch a gwaith llaw) a Chwpan Brycheiniog (celfwaith blodau) ar y thema ‘Myth neu Chwedl Gymreig’. Llongyfarchiadau i enillwyr y gystadleuaeth:
Y Fowlen Rhosod (cynnyrch a chrefftau llaw)
1af - Powys Brycheiniog
2il - Ceredigion
3ydd - Sir Gâr
Cwpan Brycheiniog (celfwaith blodau)
1af - Morgannwg
2il - Powys Brycheiniog
3ydd - Ceredigion
Mae lluniau o'r ceisiadau buddugol ar gael yma.