Crynodeb o ddigwyddiadau Nid yn fy Enw i
Sefydliad y Merched yn nodi Diwrnod Rhyngwladol Dileu Trais yn erbyn Menywod a Diwrnod Rhyngwladol y Rhuban Gwyn
Ar 18 Tachwedd 2024, cynhaliodd FfCSyM-Cymru ddigwyddiadau yn y Senedd i nodi Diwrnod Rhyngwladol Dileu Trais yn erbyn Menywod a Diwrnod Rhyngwladol y Rhuban Gwyn (25 Tachwedd), sef dechrau’r 16 Diwrnod o Weithredu yn Erbyn Trais ar Sail Rhywedd.
Wedi’i gyd-gadeirio gan Gadeirydd FfCSYM-Cymru Jill Rundle a Joyce Watson AS, daeth y digwyddiad rhanddeiliaid ag ystod eang o randdeiliaid ynghyd i fyfyrio ar y sefyllfa bresennol ac ar y gweithredu sydd ei angen i ddod â’r pla o drais yn erbyn menywod a merched i ben.
Yn drasig, mae o leiaf 70 o fenywod yn y DU wedi colli eu bywydau eleni oherwydd trais ganddynion yn erbyn menywod (hyd at 30 Hydref), nododd Jill Rundle yn ei hanerchiad agoriadol a dywedodd bod angen gweithredu’n feiddgar i fynd i’r afael â’r pandemig o drais yn erbynmenywod a merched. Anerchodd Cadeirydd FfCSyM Jeryl Stone y cynadleddwyr am ymrwymiad SyM i ddod â thrais yn erbyn menywod a merched i ben.
Siaradwyr y panel oedd Samsunear Ali, Prif Weithredwr, Bawso; Tanya Bull, Pennaeth Iechyd, UNISON Cymru Wales; a Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol.
Gwyliwch recordiad o'r digwyddiad yma.
Yn cael eu harddangos oedd baneri a grëwyd gan aelod SyM Dinas Powys, Theresa Lloyd, ianrhydeddu pob menyw a gafodd ei llofruddio gan ddyn yn 2024.
Manteisiodd y rhanddeiliaid ar y cyfle hefyd i lofnodi’r bwrdd addewid Nid yn fy Enw i.
Gyda’r nos, cynhaliwyd gwylnos yng ngolau canhwyllau yn Y Pierhead, a ddilynwyd gan daith gerdded fer. Clywodd yr wylnos gyfraniadau pwerus gan oroeswyr Rachel a Sera; Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol; Michael Taggart, Llysgennad RhubanGwyn ac Ymddiriedolwr White Ribbon UK; Jeryl Stone, Cadeirydd FfCSyM; a chynrychiolwyr o bob plaid wleidyddol - Rhun ap Iorwerth AS (Plaid Cymru); Jack Sargeant AS (Llafur Cymru); Cynghorydd William Powell (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru); a Gareth Davies MS (Ceidwadwyr Cymreig).
Daeth yr wylnos i ben gyda pherfformiad calonogol gan Gôr Llamau.