Bydd FfCSyM-Cymru yn cynnal digwyddiad ar-lein ar 17 Mawrth, o 7yh - 8.15yh, i nodi Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth. Yn ystod y digwyddiad, bydd menywod niwrowahanol yn rhannu eu profiadau byw. Bydd yn gyfle i hyrwyddo niwroamrywiaeth a dathlu gwahaniaethau a chryfderau a safbwyntiau unigryw menywod niwrowahanol. Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei drefnu fel rhan o ymgyrch SyM ‘Meddwl yn Wahanol: Menywod a Merched Awtistig ac ag ADHD’. Mae ein hymgyrch Meddwl yn Wahanol yn ceisio codi ymwybyddiaeth o awtistiaeth ac ADHD mewn menywod a merched, ac yn galw am weithredu i wella’r broses ddiagnosis ac i gynyddu’r gefnogaeth sydd ar gael iddynt.
Siaradwyr:
Etholwyd Sara i Gyngor Caerdydd, yn cynrychioli Grangetown, yn 2022. Mae hi hefyd yn ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus, hyfforddwr ac awdur sydd wedi ennill sawl gwobr. Mae Sara, cyn Gyfarwyddwr Ifanc y Flwyddyn Sefydliad y Cyfarwyddwyr, yn ysgrifennu colofn arobryn ar gyfer y Western Mail, ac, yn 2023, cafodd ei henwi’n un o “100 o Entrepreneuriaid Benywaidd i’w Gwylio” gan Small Business Britain. Ers cael diagnosis o ADHD yn 40 oed, mae hi wedi ysgrifennu sawl erthygl ar ei diagnosis. Cynigiodd hefyd fod Cyngor Caerdydd yn mabwysiadu polisi i ddod yn ‘Ddinas sy’n Deall Niwrowahaniaeth’ gyntaf yng Nghymru, a basiodd yn unfrydol ym mis Medi 2023.
Mae Brogan Evans yn awtistig ac mae ganddi ADHD. Mae hi’n chwaraewr rygbi’r gynghrair gyda Wigan Warriors ac wedi cynrychioli Cymru ar lefel ryngwladol. Mae hi hefyd yn hyfforddwr ac yn falch o fod yn fodel rôl ac yn fentor i bobl ifanc niwrowahanol eraill. Bydd Brogan yn rhannu ei thaith bersonol gan gynnwys sut mae cymryd rhan mewn chwaraeon wedi ei helpu a bydd yn trafod pwysigrwydd hyrwyddo niwroamrywiaeth yn y gymuned chwaraeon.
Mae Caitlyn Seldon yn entrepreneur 25 oed sy’n awtistig ac sydd ag ADHD. Mae Caitlyn yn meddwl y tu allan i'r bocs ac yn aml yn mwynhau datrys problemau ac arweiniodd hyn at ddechrau ei busnes ei hun ar ôl cael trafferth yn y gweithle traddodiadol fel menyw niwrowahanol. Mae Catlin yn gobeithio cefnogi menywod niwrowahanol eraill i anelu'n uchel a bod yn falch o’u hunain.
Mae'r digwyddiad hwn yn agored i aelodau a'r rhai nad ydynt yn aelodau.
Cofrestrwch isod i fynychu.
The WI makes great cookies, but we also use them to give you the best experience on our site.
By continuing to use our website we will assume that you are happy with our use of cookies.
More information
Accept Refuse