Archebwch eich lle yng Nghynhadledd Cymru 2025
Mae Cynhadledd FfCSyM-Cymru 2025 yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Selwyn Samuel, Llanelli ar ddydd Mercher 16 Ebrill. Bydd hwn yn ddigwyddiad nodedig a dathliadol yng nghalendr FfCSyM gan mai dyma fydd y 100fed Gynhadledd a bydd pob aelod sy’n mynychu’r digwyddiad yn cael rhodd i nodi’r achlysur.
Siaradwyr wedi'u cadarnhau:
Jeryl Stone, Cadeirydd FfCSyM
Mari Thomas, Mari Thomas Jewellery. Mae Mari yn rhedeg busnes dylunio gemwaith yn Llandeilo. Mae ei gemwaith yn cael ei arddangos ledled y byd ac mae hi hefyd wedi cael ei chomisiynu i wneud gwaith â phroffil uchel iawn. Bydd Mari’n siarad am ei hysbrydoliaeth ar gyfer y gwahanol ddyluniadau mae’n eu gwneud a bydd ganddi hefyd stondin yn gwerthu rhai darnau o emwaith.
Y gost i fynychu'r digwyddiad fydd £15 yr aelod.
Aelodau yng Nghymru - Archebwch eich lle drwy eich Ffederasiwn.
Aelodau yn Lloegr - Cysylltwch â Swyddfa FfCSyM-Cymru i archebu eich lle. E-bost: walesoffice@nfwi-wales.org.uk
Ar y diwrnod, bydd lluniaeth ysgafn ar gael i'w brynu o'r lleoliad. Mae'r lleoliad yn hygyrch.