Cofrestrwch nawr: Gwylnos yng Ngolau Canhwyllau 2024

EnglishCymraeg

Gwylnos yng ngolau canhwyllau i nodi’r Diwrnod Rhyngwladol i Ddileu Trais yn erbyn Merched a Diwrnod Rhuban Gwyn

Wedi ei drefni gan FfCSyM-Cymru
Noddir gan Joyce Watson AS

18 Tachwedd, 6yh tan 7.30yh
Senedd, Bae Caerdydd

Cynhelir gwylnos yng ngolau canhwyllau yn y Senedd ar ddydd Llun 18 Tachwedd am 6yh i nodi Diwrnod Rhyngwladol i Ddileu Trais yn Erbyn Merched a Diwrnod Rhyngwladol y Rhuban Gwyn.  Bydd yr wylnos yn clywed wrth goroeswyr, llysgenhadon Rhuban Gwyn, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, ac Aelodau o'r Senedd o bob plaid.  Bydd y digwyddiad yn cau gyda pherfformiad gan Gôr Llamau.

Cynhelir yr wylnos y tu allan ar risiau’r Senedd (os bydd y tywydd yn caniatáu). Os bydd tywydd garw, cynhelir y digwyddiad yn adeilad y Senedd oni bai am daith gerdded fer o amgylch adeilad y Pierhead. Dewch â’ch cannwyll eich hun os gwelwch yn dda. I leihau’r risg o losgiadau a chwyr yn gollwng ar risiau’r Senedd, dewch â’ch cannwyll mewn daliwr/cynhwysydd/jar neu dewch â channwyll LED a weithredir â batri.

Cwblhewch y ffurflen isod i gadarnau eich presenoldeb. Os oes gennnych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch a Sarah Thomas ar s.thomas@nfwi-wales.org.uk.

Bydd SyM yn defnyddio eich gwybodaeth er mwyn cysylltu â chi gyda manylion am yr wylnos yng ngolau canhwyllau. Dim ond staff FfCSyM sy’n gysylltiedig â’r digwyddiad bydd yn cael mynediad i’ch gwybodaeth bersonol. Bydd rhestr o fynychwyr yn cael rhannu gyda thîm digwyddiadau’r Senedd. Bydd y wybodaeth rydych yn darparu yn cael ei gadw’n ddiogel ac yn cael ei dinistrio ar ôl y digwyddiad.

Cofrestrwch isod


Individual or Organisation | Unigolyn neu fudiad *