FfCSYM-Cymru a BowlsCymru yn ffurfio partneriaeth

EnglishCymraeg

Mae FfCSyM wedi sefydlu partneriaeth â BowlsCymru er mwyn annog mwy o fenywod i  chwarae bowls.

Mae BowlsCymru yn gweithio’n agos gyda ffederasiynau a’u clwb bowlio agosaf i greu sesiynau bowlio wythnosol i ddechreuwyr, diwrnodau agored i fenywod yn unig yn ogystal â rhoi cyfle i gymdeithasu a chwarae.

Mae nifer o sesiynau blasu wedi cael eu trefnu yn barod yng Ngwent, Morgannwg a Chlwyd Dinbych.

Darllenwch am lwyddiant y prosiect yng Nghlwb Bowls Dan Do Ogwr:  https://bowlswales.com/ogwr-indoor-bowls-club-run-a-successful-wi-project/

Darllenwch fwy am y bartneriaeth: https://bowlswales.com/bowlswales-and-the-nfwi-wales-working-together-to-create-more-opportunities-for-women-to-play-bowls-across-wales/