Rhoi Terfyn ar Drais yn Erbyn Merched
Ers 2008 rydym wedi bod yn ymgyrchu i roi terfyn ar drais yn erbyn merched trwy godi ymwybyddiaeth o’i natur, maint ac effaith.
Addewid Nid yn fy Enw i
Mae Sefydliadau y Merched ar draws y wlad wedi bod yn recriwtio llysgenhadon gwryw a phenderfynwyr lleol i addo i beidio byth â defnyddio, esgusodi nac aros yn dawel ynghylch trais gan ddynion yn erbyn merched.
Trwy arwyddo’r addewid a gwisgo rhuban gwyn, mae dynion yn gallu cyfathrebu’r neges bod camdriniaeth ddomestig yn annerbyniol ac ni ddylid byth ei anwybyddu nac esgusodi.
Yn 2024, roedd cefnogwyr yr ymgyrch wedi cynnwys Un Llais Cymru, Cymdeithas Corau Meibion Cymru a Chlwb Rygbi Abergwaun ac Wdig ac yn 2023 roedd Criced Cymru, Clwb Pêl Droed Dinas Caerdydd, Clwb Rygbi Arberth a Thîm Hoci Iâ Diawled Caerdydd wedi addo eu cefnogaeth.
Darllenwch erthygl gan Un Llais Cymru.
Datganiad o gefnogaeth gan Criced Morgannwg:
Mae Criced Morgannwg yn falch o gefnogi’r ymgyrch hon, yn enwedig rhannu’r neges gyda bechgyn a dynion yng Nghymru i gymryd sylw o’r neges ‘Nid yn fy Enw i’ bod trais yn erbyn menywod yn gwbl annerbyniol. Mae gan griced rôl i hyrwyddo’r negeseuon hyn ac rydym yn falch o gefnogi’r ymgyrch hon. - Mark Frost, Rheolwr Datblygu Gweithgareddau’r Gymuned, Criced Cymru & Morgannwg
Lawrlwythwch ein Pecyn Gweithredu am wybodaeth gefndir, syniadau ar gyfer gweithredu a dolenni i adnoddau defnyddiol.
Aelodau yng Nghymru: Cofrestrwch i ddod yn Pencampwr Nid yn fy Enw i
Rydym ar hyn o bryd yn recriwtio aelodau SyM i ddod yn Pencampwyr yn eu SyM a’u cymuned i helpu rhoi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched. Bydd y Pencampwyr Nid yn fy Enw i yn cael eu cefnogi i godi ymwybyddiaeth yn eu cymunedau o drais yn erbyn menywod a merched a recriwtio a grymuso llysgenhadon i ddod yn gynghreiriaid wrth atal a dileu trais yn erbyn menywod a merched. Ewch i My WI i ddarganfod mwy a chofrestru eich diddordeb.
Digwyddiad rhanddeiliaid a gwylnos yng ngolau canhwyllau 2024
Ar 18 Tachwedd 2024, cynhaliodd FfCSyM-Cymru ddigwyddiad i randdeiliaid ac wedyn gwylnosyng ngolau canhwyllau yn gynnar yn y nos. Darllenwch fwy yma am y digwyddiadau.
Digwyddiadau 2025 yn y Senedd
Dyddiad i’ch dyddiadur: Bydd FfCSyM-Cymru a Joyce Watson AS yn cynnal digwyddiad trawsbleidiol i randdeiliaid yn y Senedd cyn cynnal wylnos yng ngolau canhwyllau ar Ddydd Llun 17 Tachwedd 2025i nodi Diwrnod Rhyngwladol Dileu Trais yn Erbyn Menywod a Diwrnod Rhyngwladol y Rhuban Gwyn.
Cystadleuaeth Nid yn fy Enw i
Ein cystadleuaeth Nid yn fy Enw i 2025 ar gyfer aelodau yw ‘Creu Baner’ sy’n darlunio’r ymgyrch. Ewch i My WI i ddarganfod mwy. Mae’r gystadleuaeth hon yn agored i aelodau ledled Cymru, Lloegr a’r Ynysoedd.
Gweithredwch
Dyma rai o’r ffyrdd mae aelodau yn gweithredu:
- gwneud rhubanau gwyn i lysgenhadon gwisgo
- trefnu cyfleoedd tynnu llun o lysgenhadon yn dal neu’n arwyddo’r poster
- cysylltu ag awdurdodau lleol - mae nifer wedi derbyn neu yn gweithio tuag yr achrediad Rhuban Gwyn
- gweithio gyda grwpiau menywod fel Cymorth i Ferched a Hafan Cymru i drefnu digwyddiadau codi ymwybyddiaeth ar y cyd
- cyhoeddi datganiad i’r wasg a defnyddio cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo eu gweithgareddau gan ddefnyddio’r hashnod ‘NidynfyEnwi
Am fwy o gyfleoedd i gymryd rhan, gall aelodau logio i mewn i My WI.