Cysylltedd Digidol
Ar ddechrau 2021, ymunodd FfCSyM-Cymru â CFfI Cymru, NFU Cymru, Undeb Amaethwyr Cymru a Chymdeithas Tir a Busnes Cefn Gwlad i edrych ar gysylltedd digidol yng Nghymru.
Canfyddiadau arolwg cysylltedd digidol - Mai 2021
Dangosodd ganfyddiadau arolwg cysylltedd digidol, a lansiwyd ym mis Mai 2021 gan FfCSyM-Cymru, Cymdeithas Tir a Busnes Cefn Gwlad, Undeb Amaethwyr Cymru, NFU Cymru a CFfI Cymru, y bwlch enfawr rhwng ardaloedd trefol a rhai gwledig o ran mynediad i fand eang a’i sefydlogrwydd a derbyniad signalau ffonau symudol.
Dywedodd llai na 50% o’r rhai oedd yn byw mewn ardaloedd gwledig fod ganddynt fand eang safonol a dywedodd 66% fod band eang gwael wedi effeithio arnynt neu ar eu haelwydydd. Wrth ddisgrifio’r signal ffonau symudol yn eu tai, dywedodd 57% o’r bobl o ardal wledig fod eu signal yn ‘annibynadwy’ a nododd 49% o’r rhai o ardal wledig fod eu signal yn ‘annibynadwy’ yn yr awyr agored.
Darllenwch y datganiad i’r wasg yma.
Cyn y Ffair Aeaf 2021, lansiwyd arolwg ychwanegol mewn partneriaeth ag Undeb Amaethwyr Cymru, NFU Cymru, Cymdeithas Tir a Busnes Cefn Gwlad a Chlybiau Ffermwyr Ifanc Cymru i edrych ar gyflwr presennol cysylltedd digidol yng Nghymru. Ceisiodd yr arolwg edrych ar sut mae pobl yn teimlo am lefel y cyfathrebu sydd rhyngddynt a’u darparwr, gwerth cost y gwasanaeth ac yn edrych ymhellach ar y ffordd y bydd newidiadau arfaethedig i’r systemau cofnodi da byw ar-lein yn effeithio ar y gymuned ffermio.
Dyma rai o brif ganfyddiadau’r arolwg:
- Dywedodd 57% o'r ymatebwyr fod eu band eang yn 'wael' neu'n 'weddol'
- Teimlodd 53% o’r ymatebwyr fod band eang gwael wedi effeithio arnynt yn negyddol
- Dywedodd 54% o'r ymatebwyr nad oeddent yn gwybod ble i gael gafael ar wybodaeth a chymorth i wella eu cysylltiad band eang.
Gweminar Gwella Cysylltedd Digidol
Ar 28 Ebrill 2022, cynhaliwyd gweminar ar ‘gwella cysylltedd digidol’ o dan ofal FfCSyM-Cymru, CFfI Cymru, NFU Cymru, Undeb Amaethwyr Cymru a CLA Cymru.
O dan gadeiryddiaeth Caryl Haf Jones, Cadeirydd Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru, roedd y siaradwyr wedi cynnwys:
- Adam Butcher, Tîm Seilwaith Digidol, Llywodraeth Cymru;
- Mike Lewis, Swyddog Band Eang Cymunedol, Cyngor Sir Powys; a
- David Phillips, Cyfarwyddwr, Prosiect Bang Eang Cymuned Michaelston-y-Fedw.
Pecyn Gweithredu
Mae Pecyn Gweithredu wedi cael ei gynhyrchu i gynorthwyo aelodau i gael gwybod mwy am y sefyllfa bresennol ynghylch cysylltedd digidol, ffynonellau cymorth sydd ar gael i wella cysylltedd a syniadau ar gyfer gweithredu. Mae'r Pecyn Gweithredu ar gael i’w gyrchu ar My WI.
Rhannwch eich storïau gyda ni
Ydych chi wedi cael eich effeithio gan fand eang neu signal ffôn gwael? A ydych wedi elwa o fentrau sy'n cefnogi aelwydydd a chymunedau i wella eu cysylltedd? Cysylltwch â ni i rannu eich profiadau boed yn bositif neu’n negyddol, i gefnogi ni mewn tynnu sylw i’r mater ymhlith y rhai sy’n gwneud penderfyniadau. Ebostiwch: s.thomas@nfwi-wales.org.uk